1000 diwrnod cyntaf

Mae’r 1,000 diwrnod cyntaf (rhwng cenhedlu a phen blwydd y plentyn yn 2 oed) yn gyfle unigryw i greu plant iach a hapus a gwella eu siawns mewn bywyd. Mae nifer o ymgyrchoedd uchel eu proffil wedi hybu pwysigrwydd maeth da yn ystod y cyfnod hwn, ond nid yw’r manteision o fod yn actif ar ôl beichiogrwydd ac yn ystod y blynyddoedd cynnar wedi cael yr un sylw. Mae’r ymennydd dynol yn datblygu ac yn newid drwy gydol eich bywyd, ond mae’r ymennydd yn tyfu fwyaf yn ystod trimester olaf y beichiogrwydd a dwy flynedd gyntaf bywyd y plentyn. Felly, mae profiadau cynnar positif yn cael effaith enfawr ar siawns y plentyn i gyflawni, llwyddo a bod yn hapus a bydd yn effeithio ar ei ganlyniadau iechyd weddill ei fywyd. 

Mae bod yn actif yn yr awyr agored, tra rydych chi’n feichiog a gyda’ch babi newydd, yn ffordd grêt o dreulio amser pwysig gyda’ch gilydd; mae’n llesol i’ch lles corfforol a meddyliol a bydd yn eich helpu i sicrhau eich bod wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i roi’r profiadau cynnar y mae arno eu hangen i’ch babi ar gyfer ei iechyd corfforol ac emosiynol drwy gydol ei fywyd. 

Ochr yn ochr â’r cyrsiau, y sesiynau a’r digwyddiadau blasu amrywiol sydd ar gael, bydd Babi Actif hefyd yn creu pecyn gweithgarwch o “Pethau i’w Gwneud Cyn Bod yn Ddwy” – detholiad o bethau am ddim, hwyliog a hygyrch i chi a’ch babi eu mwynhau gyda’ch gilydd. Bydd pecyn ar gael i bawb sy’n dod i sesiwn Babi Actif ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y sesiynau a’r pecyn yn tanio eich dychymyg i roi blynyddoedd o hwyl actif ac iach i chi gyda’ch teulu.