Bod yn actif yn yr awyr agored

Mae gwybodaeth dda am fanteision iechyd niferus ffitrwydd corfforol. Gall ymarfer rheolaidd atal salwch cronig ac mae wedi’i brofi ei fod yn codi hwyliau, yn lleddfu straen ac yn gwella patrymau cysgu.

Gall bywydau modern prysur (yn enwedig gyda babi newydd yn y teulu) wneud i bobl deimlo nad oes ganddyn nhw amser i ymarfer, ond y newyddion da yw nad oes raid i chi fentro’n bell o’ch cartref na gwario llawer o arian i fod yn fwy heini a gwella eich iechyd. 

Mae’r awyr agored ar gael i chi bob amser, mae tu allan i’ch drws a gall ymarfer yn yr awyr agored roi gwell ymarfer i chi, gan eich bod yn addasu i’ch amgylchedd yn gyson. Hefyd mae’n llenwi eich ysgyfaint ag aer ffres ac yn rhoi dos am ddim i chi o fitamin D. Ond os nad ydych chi wedi bod yn berson actif iawn yn gorfforol erioed, gall fod yn her mentro i’r awyr agored a rhoi cynnig ar weithgaredd nad ydych wedi’i ystyried o’r blaen. Efallai y byddwch yn poeni nad ydych yn ddigon heini, neu nad oes gennych chi’r offer priodol, neu y bydd pobl eraill yn edrych arnoch chi. 

Bydd y sesiynau Babi Actif yn cael eu cynnal mewn awyrgylch hamddenol, cymdeithasol ac anffurfiol a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu hannog i wneud cymaint ag y maen nhw’n gallu a chan fod pawb yn cymryd rhan gyda’u rhai bach (sydd heb wneud y gweithgareddau hyn erioed o’r blaen efallai), mae’n esgus perffaith i chi ddysgu ochr yn ochr â nhw. Bydd ein holl hyfforddwyr yn arbenigwyr ar eich helpu chi i ymarfer yn ddiogel a bydd yr holl ymarferion yn hyblyg a bydd posib eu haddasu i ystyried gwahanol lefelau o ffitrwydd corfforol.