Babi Actif

Bod yn actif ac allan yn yr awyr agored gyda’ch babi

Calendr Sesiwn

Pam bod yn actif yn yr awyr agored gyda’ch babi?

Llesol i’ch babi

Mae gweithgarwch corfforol yn grêt i les corfforol a meddyliol (i chi a’ch babi), mae’n annog datblygiad eich babi ac efallai, yn bwysicach na dim, mae’n ffordd hyfryd o fondio gyda’ch babi a chael hwyl gyda’ch gilydd!

1000 diwrnod
cyntaf

Mae’r 1,000 diwrnod cyntaf (rhwng cenhedlu a phen blwydd y plentyn yn 2 oed) yn gyfle unigryw i greu plant iach a hapus a gwella eu siawns mewn bywyd.

Bod yn actif yn yr awyr agored

Mae gwybodaeth dda am fanteision iechyd niferus ffitrwydd corfforol. Gall ymarfer rheolaidd atal salwch cronig ac mae wedi’i brofi ei fod yn codi hwyliau, yn lleddfu straen ac yn gwella patrymau cysgu. 

Llesol i chi

Gall cael babi newydd fod yn gyffrous iawn ond mae hefyd yn gallu bod yn heriol ac yn gyfnod o ynysu cymdeithasol. Mae Babi Actif yn cynnig cyfle i chi gyfarfod ffrindiau newydd, datblygu hyder ac mae’n eich helpu i sefydlu arferion a hobïau i bara am amser hir.

Cipolwg i chi …

SESIYNAU AM DDIM

Bydd Babi Actif yn darparu sesiynau mewn lleoliadau / mannau amrywiol ledled Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, AM DDIM. Yn ystod oes y prosiect rydym yn gobeithio cynnwys teithiau cerdded gyda choets, ffitrwydd rhiant a babi, beicio, loncian, teithiau cerdded gyda sling, dawnsio gyda sling a sesiynau
synhwyraidd yn yr awyr agored, gyda’r nod o helpu rhieni newydd i ddod o hyd i weithgaredd awyr agored maen nhw wir yn ei fwynhau. Bydd y pwyslais ar gael hwyl a bod yn iach gyda’ch babi, i osod y blociau adeiladu ar gyfer dyfodol iachach i chi’ch dau.

CYSYLLTWCH Â NI