Llesol i chi

Gall cael babi newydd fod yn gyffrous iawn ond mae hefyd yn gallu bod yn heriol ac yn gyfnod o ynysu cymdeithasol. Mae Babi Actif yn cynnig cyfle i chi gyfarfod ffrindiau newydd, datblygu hyder ac mae’n eich helpu i sefydlu arferion a hobïau i bara am amser hir.

Mae bod yn actif yn gorfforol yn hynod bwysig ar gyfer adfer lles a ffitrwydd i famau newydd, ond gall fod yn fuddiol i ofalwyr ac aelodau’r teulu hefyd. Mae bod yn yr awyr agored yn gwneud i bobl deimlo’n well ac mae’n cyfrannu at iechyd meddwl da – cofiwch mai nid dim ond babanod sy’n elwa o gael rhywfaint o ymarfer ac awyr iach. Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddechrau ceisio bod yn iachach a pha well rheswm sydd nag er mwyn mwynhau amser pwysig gyda’r ychwanegiad newydd at eich teulu a’i helpu i ddysgu am y byd?

Os ydych chi wedi mwynhau ffordd o fyw iach ac actif yn flaenorol ond yn gweld hynny’n fwy anodd nawr gyda babi i ofalu amdano, neu os nad ydych chi wedi bod yn berson actif iawn erioed, bydd sesiynau Babi Actif yn eich cefnogi chi i roi cynnig ar rywbeth newydd mewn lleoliad cyfeillgar ac anffurfiol. O deithiau bygi a sling i sesiynau ffitrwydd rhiant a babi, beicio, dawnsio neu chwarae llanestog, bydd sesiynau galw heibio, cyrsiau a digwyddiadau blasu i’ch annog chi i fwynhau gweithgarwch corfforol gyda’ch teulu cyfan.