Llesol i’ch babi 

Mae gweithgarwch corfforol yn grêt i les corfforol a meddyliol (i chi a’ch babi), mae’n annog datblygiad eich babi ac efallai, yn bwysicach na dim, mae’n ffordd hyfryd o fondio gyda’ch babi a chael hwyl gyda’ch gilydd! 

~ Mae sesiynau Babi Actif AM DDIM i gyd ac yn cefnogi ac yn annog rhieni i fod yn actif gyda’u babanod. ~

Ewch ati i sefydlu arferion ffordd o fyw iach a fydd yn para am oes eich plentyn. 

Mae bod yn actif yn gorfforol yn yr awyr iach yn llesol i ni i gyd, ond mae bod yn yr awyr agored yn brofiad synhwyraidd cyffrous iawn i fabanod, wrth iddyn nhw gael profiadau drwy eu synhwyrau a dysgu am y byd o’u cwmpas, gan hefyd eu helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o risg ac annibyniaeth.

Hefyd mae bod yn actif yn yr awyr agored yn cefnogi datblygiad corfforol a gwybyddol eich babi, yn creu esgyrn a chyhyrau cryf ac yn gwella cydsymudiad a hyblygrwydd. Bydd bod yn rhan o grŵp gyda rhieni a phlant eraill yn helpu i feithrin hyder a sgiliau cymdeithasol ac, yn bwysicach na dim, yn enwedig i rieni newydd, mae awyr iach a haul yn gwella eich gallu i ymlacio a chysgu.