Sesiynau ymarfer ar-lein

Mae’n bwysicach nag erioed yn ystod y cyfnod anodd yma ceisio cadw’n actif a gofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol, felly er mwyn helpu i gadw rhieni newydd a’u babanod yn hapus ac yn iach, rydyn ni wedi lansio sesiynau byw Babi Actif ar Facebook.

Mae’r sesiynau sy’n cael eu dangos ar gael ar gyfer eu gwylio drwy glicio ar y dolenni isod. Fel dewis arall, gallwch ddod o hyd i’n holl sesiynau byw ar ein sianel YouTube, sy’n cael ei diweddaru’n wythnosol o Facebook. Mae pob sesiwn o fis Mawrth 2020 ymlaen ar gael nawr a hefyd maent yn cael eu trefnu’n rhestri chwarae o Pilates ôl-eni a ffitrwydd ôl-eni, 6 wythnos – 6 mis a 6 mis +; edrychwch ar y disgrifiad ar bob fideo am gynnwys y sesiwn. Gallwch wneud yr holl sesiynau yma yn yr awyr agored os oes gennych chi fynediad i ofod diogel ac os yw’r tywydd yn braf, neu dan do; unrhyw le lle mae gennych chi ddigon o ofod i symud o gwmpas.  

Gellir gwneud pob ymarfer heb offer, ond efallai y byddwch chi eisiau cynyddu dwysedd eich ymarfer gyda’r canlynol:

  • Bandiau ymwrthedd (gallwch ddefnyddio pâr o deits neu ddefnydd arall sy’n ymestyn)
  • Clustog bychan neu bêl feddal
  • Dymbelau neu bwysau (gallwch ddefnyddio tuniau ffa pob neu gartonau llefrith yn llawn dŵr yn lle pwysau)

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y sesiynau yma’n eich helpu chi i gadw’n actif ac yn bositif tra mae cyfyngiadau o hyd ar weithgareddau arferol, ond cofiwch ddarllen ein Nodiadau Cyfarwyddyd am gyngor ynghylch ar gyfer pwy mae’r sesiynau hyn yn addas, ac ar gyfer unrhyw ystyriaethau iechyd y dylech feddwl amdanyn nhw er eich diogelwch a’ch cyfforddusrwydd chi cyn ymgymryd ag unrhyw weithgarwch corfforol.