Gwybodaeth i gyfranogwyr

Ymwadiad / Nodiadau Canllaw

Os ydych chi’n byw gyda diagnosis meddygol neu gyflwr iechyd dan reolaeth, cofiwch holi eich meddyg cyn gwneud unrhyw ymarfer a chael cadarnhad ei fod yn hapus i chi ymarfer.

Nid ydym yn argymell eich bod yn ailddechrau ymarfer heb gyfarwyddyd gan eich meddyg ar ôl geni eich babi. Fel rheol, mae archwiliad chwech i wyth wythnos yn cael ei gynnal ar ôl geni drwy’r fagina. Dyma pryd gewch chi gyngor am ailddechrau ymarfer priodol. Nid yw pob meddygfa’n cynnig yr archwiliad yma felly efallai y bydd rhaid i chi wneud apwyntiad penodol i drafod gyda’ch gweithiwr iechyd proffesiynol

Ar ôl cesarean, y cyfarwyddyd diogelaf yw aros nes bod 12 wythnos wedi mynd heibio a dim ond dechrau os ydych chi’n teimlo eich bod wedi gwella 100% a bod eich craith cesarean wedi gwella heb unrhyw hanes o haint arni.

Oes gennych chi ystyriaethau ôl-enedigol neu ôl-eni a all effeithio ar eich gallu chi i ymarfer?

Ydych chi’n profi …
Unrhyw haint ar y groth?
Unrhyw haint ar y graith?
Gwaedu ôl-enedigol estynedig?
Gwaedlif ôl-enedigol estynedig?
Poen yn yr abdomen?
Poen yn y pelfis?
Gwahanu abdomenol heb wella neu’n peri pryder?  

Os byddwch yn ateb unrhyw rai o’r cwestiynau uchod yn gadarnhaol, PEIDIWCH â dechrau ymarfer heddiw. Arhoswch nes eich bod yn teimlo’n ddigon da ac wedi cael caniatâd gan eich meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol.

Mae pob beichiogrwydd yn unigryw ac felly mae pob siwrnai ôl-eni yn unigryw. Mae pob profiad yn wahanol ac felly mae’n bwysig rhoi digon o amser i chi’ch hun addasu a gofalu amdanoch eich hun fel mam. A mwy fyth felly os oes gennych chi fwy nag un plentyn, i osgoi gorflino. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am yr ymarferion, cysylltwch ag Babi Actif a fydd yn fwy na pharod i helpu.